Cartref
Digwyddiadau
Gwybodaeth i Rhieni
Dyddiadur
Gwybodaeth
Llythyron
Staff / Cysylltwch
Gweithgareddau
Cymuned
Ysgolion Eco 

Cyngor ECO Ysgol Y Bedol
2011 - 2012


Enw: Dylan Williams
Blwyddyn:
5
Targed ECO:
I sicrhau bod y dosbarthiadau
yn ailgylchu papur


Enw: Kimberly Tancock
Blwyddyn:
5
Targed ECO:
I ailgylchu y defnyddiau rydyn ni'n
defnyddio yn y dosbarth




Enw: Alex Thomas
Blwyddyn:
5
Targed ECO:
I fonitro byrddau gwyn y dosbarthiadau
i arbed egni.

Enw:
Rhys Roberts
Blwyddyn: 5
Targed ECO:
I dacluso ysbwriel a monitro'r
 biniau ailgylchu.


Mae ysgol y Bedol wedi ei chydnabod gyda'r safon uchaf drwy dderbyn Baner Werdd am ei hymroddiad i gyfleu ethos ‘iachus o werdd’ o fewn yr ysgol. Mae plant yr ysgol wedi hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg staff a disgyblion mewn ffyrdd sy'n cysylltu â'r cwricwlwm. Bydd disgyblion ysgol y Bedol yn dysgu am wella ansawdd bywyd i bawb heddiw ac am genedlaethau i ddod.

 

Mae cyngor Eco gan yr ysgol gyda chynrychiolwyr o blith y disgyblion a'r staff. Y cyngor Eco sy'n cynllunio sut y bydd yr ysgol yn gweithredu i wella'u hamgylchedd a'r pwyllgor sy'n cyfathrebu ymgyrchoedd eco'r ysgol.

 

Targed y cyngor ECO a staff yr ysgol yw derbyn statws platinwm. Gweler isod ein cod ECO a lluniau o ymdrechion y plant yn cyflawni gofynion y cwricwlwm ECO ynghyd ar gyngor ECO.

Sign In