Y Weledigaeth
Cenhadaeth yr Ysgol

“Ein nod yw darparu cymuned gefnogol mewn amgylchedd hapus, lle mae’r disgyblion yn cael eu hysgogi a’u herio i gyflawni hyd eithaf eu gallu, er mwyn estyn cyfraniad cadarnhaol i’r ysgol a’r gymuned ehangach.”

Gweledigaeth yr Ysgol
Ein gweledigaeth yn Ysgol y Bedol yw darparu ysgol lle mae'r holl ddisgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig amgylchedd croesawgar, gofalgar, ysgogol a diogel er mwyn annog dysgu effeithiol a gosod ymdeimlad o falchder ynddynt eu hunain, yr ysgol a'r gymuned. Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a'i barchu a bydd ein llwyddiannau yn cael eu dathlu ynghyd. Mae’r plant, eu haddysg a'u lles, yn ganolog i’r holl broses o wneud penderfyniadau yn Ysgol y Bedol.
Ceisiwn wireddu ein gweledigaeth trwy ddarparu cwricwlwm amrywiol, cytbwys a chyfoethog gyda digon o adnoddau da i’w gefnogi, yr hwn a fydd yn ysgogi chwilfrydedd naturiol pob plentyn, waeth beth fo'i allu, hil neu ryw.
Ein gweledigaeth a’n dymuniad yw gweld bywydau pawb sy'n gadael Ysgol y Bedol wedi eu cymhwyso a’u gwella trwy’r profiadau dderbyniasant yn yr ysgol ac y bydd pob disgybl wedi cael eu harfogi gan y gallu i fod dysgwyr gydol oes.

Cyd-destun yr ysgol
Mae Ysgol y Bedol yn ysgol gynradd gymunedol newydd. Cafodd ei hadeiladu i wasanaethu dalgylchoedd Garnant a Glanaman. Mae'n ysgol flaenllaw yn y sir wedi ei sefydlu, nid yn unig fel ysgol ond fel canolfan ar gyfer y gymuned gyfan. Mae llawer o gyfleusterau gwych ynddi gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, llyfrgell, ystafell TGCh, swyddfa heddlu cymunedol a llecyn amlbwrpas o fewn yr adeilad. Mae'r cyfan ar gael i'w defnyddio gan yr ysgol a'r gymuned.
Daeth y disgyblion cyntaf i mewn i'r ysgol ym mis Mehefin 2005 ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Mae'n gymuned Cymraeg draddodiadol sy'n golygu mai'r Gymraeg yw prif gyfrwng yr addysgu. Mae'r ysgol mewn ardal dan anfantais economaidd a 27.5% o’r disgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr awdurdod lleol a Chymru gyfan. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion 3-11 oed. Mae 345 o ddisgyblion (cyfwerth ag amser llawn) ar y gofrestr ac maent yn cael eu trefnu mewn 15 dosbarth, rhai o'r un grŵp oedran ac eraill o oedrannau cymysg. Mae 9 o ddisgyblion rhan-amser yn mynychu'r dosbarth meithrin bob bore a 14 yn mynychu’r prynhawn. Maent yn ymuno â 19 o ddisgyblion llawn amser. Mae 68 disgybl ar y Gofrestr Anghenion Ychwanegol gan gynnwys 8 sydd â datganiadau.
Mae hon yn ardal draddodiadol Gymraeg ei hiaith ond mae ei natur ieithyddol wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd. Yn awr, dim ond 22% o'r disgyblion ddaw o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith. Yn ogystal, mae llawer o ddisgyblion yn dod i mewn i'r ysgol, i amrywiol ddosbarthiadau gan gynnwys Blynyddoedd 5 a 6, heb unrhyw wybodaeth flaenorol o'r Gymraeg. Mae mwyafrif helaeth y disgyblion yn wyn a chanran fechan o darddiad ethnig.
Mae Asesiad Gwaelodlin (Medi 2011) yn amlygu lefelau isel o sgiliau ar eu derbyn i’r ysgol.

Nod yr Ysgol
Yn Ysgol y Bedol ein nod yw darparu amgylchedd hapus, ysgogol a diogel lle rydym yn:
- Datblygu'r plentyn cyfan trwy ddarparu amgylchedd diogel a hapus lle gall ein disgyblion ddysgu sgiliau bywyd pwysig.
- Sefydlu ein disgyblion yn ddysgwyr gydol oes.
- Helpu ein disgyblion i ddod yn fwy hyderus, yn rhugl ac yn gallu cyfathrebu a dangos empathi ag eraill.
- Tynnu ar ein disgyblion i fod yn llythrennog, rhifog ac i feddu ar y gallu technolegol i weithio'n effeithiol yn yr ysgol a'r byd ehangach.
- Meithrin yn ein disgyblion ymdeimlad cryf o'u hunaniaeth ddiwylliannol wrth fod yn ymwybodol o ac yn barchus tuag at eu cymunedau lleol ac yn fyd-eang.
- Parhau i feithrin hinsawdd o lwyddiant i bob disgybl, yn dathlu eu holl gyraeddiadau ym mhob agwedd ar eu bywyd.
Nod y Cwricwlwm
Trwy'r cwricwlwm yn Ysgol y Bedol, ein nod yw:
- Datblygu hunan hyder ac annibyniaeth
- Annog ymchwiliad, esboniad ac arbrofi
- Adeiladu hunan-barch
- Annog rhuglder
- Darparu gweithgareddau gwerth chweil, sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygiad y plentyn
trwy ddarparu cwricwlwm sy'n
- weithredol ac ymarferol
- bleserus
- gydweithredol a chymdeithasol
- cefnogi pob maes dysgu a phrofiad
- cefnogi trosglwyddo effeithiol o ysgol i ysgol
- cael ei gynllunio, sy’n flaengar ac yn cyfateb i anghenion bob plentyn
- cael ei fonitro, ei asesu a’i werthuso
- datblygu’n effeithiol sgiliau sylfaenol llythrennedd a rhifedd
- adeiladu ar, yn derbyn ac yn gwerthfawrogi profiadau blaenorol
- gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae rhieni yn ei wneud i addysg
Rydym yn cynnal dosbarthiadau "Iaith a Chwarae" i'r teule - gan helpu rhieni i helpu eu plant.
Caiff y nodau hyn eu egluro i'r rhieni mewn tair dogfen allweddol:
1. Prospectws yr ysgol
2. Gwefan yr ysgol
2. Y cytuneb ysgol catref
I gyrraedd y nod,
Dylai plant fod yn:
- Siarad â, ac yn gwrando ar, athrawon, oedolion eraill a'i gilydd;
- dangos a rhannu eu gwaith â phlant, athrawon, a rhieni;
- Gofyn cwestiynau ac yn canfod atebion;
- Dewis a chasglu deunyddiau sydd eu hangen arnynt, ac yna eu defnyddio yn gyfrifol ac yn effeithiol;
- Llwyr ymgolli yn eu gwaith a chanolbwyntio;
- Gweithio ar un dasg neu weithgaredd am gyfnodau gynyddol hwy o amser;
- Ymfalchïo yn eu cyflawniadau eu hunain ac eraill;
- Datblygu, ymarfer a meistroli sgiliau;
- Chwarae, darllen, ysgrifennu, cyfrifo, tynnu llun a phaentio;
- Canu, symud, cynllunio, cyfansoddi, gwneud a gwerthuso pethau;
- Gwylio, arddangos, arbrofi, egluro a disgrifio eu gwaith;
- Cynorthwyo’i gilydd;
- Deall y gwaith y maent yn ei wneud
- Gwneud camgymeriadau, yn rhoi cynnig ar bethau;
- Gweithio mewn grwpiau o wahanol feintiau, gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau, ystod gallu, ar gyfer ystod o weithgareddau;
- Cymryd pethau cartref a dod â phethau i’r ysgol.
Dylai athrawon fod yn:
Dylai rhieni fod yn:
- Sicrhau bod yr ysgol yn ymwybodol o unrhyw bryderon neu broblemau a allai effeithio ar waith neu ymddygiad y plant;
- Cefnogi polisïau a chanllawiau’r ysgol;
- Cefnogi plant mewn gwaith cartref a chyfleoedd eraill ar gyfer dysgu yn y cartref;
- Mynychu Nosweithiau Rhieni a thrafodaethau am gynnydd plant;
- Dod i wybod am fywyd eu plentyn yn yr ysgol
- Sicrhau bod ei plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd, ar amser ac adnoddau priodol yn ei m/feddiant.