Cartref
Digwyddiadau
Gwybodaeth i Rhieni
Dyddiadur
Gwybodaeth
Llythyron
Staff / Cysylltwch
Gweithgareddau
Cymuned
Rheolau'r Ysgol 

Cytuneb Ysgol / Cartref Ysgol Y Bedol

  1. Y Rhieni / Gwarcheidwaid,

Byddaf/Byddwn:

  • Yn gofalu bod ein plentyn / fy mhlentyn yn mynychu'r ysgol rheolaidd, yn brydlon, yn meddu ar yr offer cywir ac mewn gwisg ysgol.
  • Yn rhoi gwybod i'r ysgol ynglyn ag unrhyw bryderon neu drafferthion a allai effeithio ar waith neu ar waith neu ymddygiad fy mhlentyn.
  • Yn cefnogi polisiau a chanllawiau'r ysgol ar ymddygiad - i feithrin ethos cadanhaol a hynaws.
  • Yn bwriadu mynychu pob noson rieni ynglyn a chynnydd fy mhlentyn.
  • Yn cymryd diddordeb mewn gwaith ysgol fy mhlentyn a cheisio sirchau bod gwaith catref yn cael ei gyflwyno'n daclus a'i ddychwelyd ar y dyddiau priodol.
  • Yn sirchau na drefnir gwyliau, lle bo hynny'n bosibl, yn ystod tymor yr ysgol ( pythefnos yn unig a ellir ei awdurdodi).
  • Yn talu'n brydlon am brydau bwyd ysgol.
  • Yn hysbysu'r ysgol am unrhyw newidiadau i gyfeiriad catref, rifau ffon, geithle, a chyswllt mewn argyfwng.

Arwyddwyd:  ________________________________ Dyddiad:____________________

(Rhieni/Gwarcheidwaid)

2. Yr Ysgol.

  • Sirchau bod ----------yn cael addysg gytbwys, heriol ac eang sy'n addas i'w (h)anghenion.
  • Darparu amgylchedd hapus gofalgar lle mae pob disgybl yn cael ei ysgogi a'i annog i gyflawni i'w llawn botensial.
  • Croesawu ac annog diddoreb ac ymwneud y rhieni yn mywyd yr ysgol.
  • Ceisio darparu amgylchedd diogel.
  • Cysylltu a rhieni os oes problem ynglyn a phresnoldeb, pryndloneb neu offer, neu broblemau sy'n cael effaith ar waith eu plentyn neu ei ymddygiad.
  • Rhoddi gwybodaeth i rieni ar y cynnydd yng ngwaith eu plentyn, a darparu adroddiad blynyddol ysgrifenedig.
  • Rhoi gweithgareddau dysgu gartref addas ar gyfer eu plentyn i'w gorffen adref gyda chymorth rhieni.
  • Darparu gwybodaeth i rieni am weithgareddau'r ysgol trwy ddanfon llythyron i'r cartref yn rheolaidd. Hefyd, anfonir cylchythyron yn ceisio ymateb rhieni a phosteri yn nodi digwyddiadau arbennig.
  • Cynnig ethos Cymreig a datblygu dwyieithrwydd.
  • Gosod pwyslais cryf ar ansawdd gwaith ac ymddygiad ac annog y disgyblion i ymgyrraedd tuag at safonau uchel ynddynt.

Arwyddwyd:________________________  Dyddiad:  _____________________________

( Penaeith, ar ran Staff a Chorff Llywodraethol Ysgol Y Bedol)

Cynwysiad Posib.

3. Y Disgybl,

  • Fe geisiaf wneud fy rhan i gadw'r cytuneb hwn.

Arwyddwyd _______________________  Dyddiad: _______________________________

Sign In