Cystadleuaeth Rygbi’r Gynghrair
Cystadlodd plant blwyddyn 5 a 6 yng nghystadleuaeth Rygbi’r Gynghrair yn Rhydaman. Roedd 2 dim o’r Ysgol wedi cystadlu ac roedd y 2 dim wedi gwneud eu gorau glas. Chwaraeodd yr Ysgol nifer o ysgolion gan gynnwys Penygroes, Ysgol Gymraeg Teilo Sant, Ysgol Parc y Tywyn ynghyd ac Ysgol yr Hendy. Chwaraeodd y tîm A yn arbennig gan golli 1 cais I 0 yn y rownd derfynol yn erbyn Ysgol Parc-y-tywyn. Serch colli, roedd y tîm A wedi llwyddo ennill lle yn rownd derfynol yng nghystadleuaeth Rygbi’r Gynghrair a fydd yn cael eu chwarae ar gae rygbi’r Gnoll ar ddiwedd mis Mehefin.